| Cysylltwch â ni:
|
Carmarthenshire Children’s Information Service
Tel: 01267 246556
|
|
Datblygiad Gweithlu
Gellwch fynd ymhell yn helpu plant i chwarae, dysgu a thyfu.
A oes gennych ddawn ymdrin â phlant?
A ellwch danio eu dychymyg drwy weithgareddau a chwarae rôl?
Os gellwch, efallai eich bod wedi canfod gwir alwedigaeth eich bywyd.
Os ydych wedi bod yn ystyried chwilio am swydd yn gofalu am blant ac yn eu helpu
i chwarae, dysgu a thyfu, yna efallai mai hwn yw'r cyfle yr ydych wedi bod yn disgwyl amdano.
Mae hwn yn sector sy'n ehangu ac ynddo gyfleoedd i bawb.
Bydd disgwyl ichi chwarae rhan allweddol ym mywyd y plant sydd dan eich adain a helpu i osod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad pob plentyn yn eich gofal yn ystod y blynyddoedd cynnar hanfodol hyn.
Mae angen rhywun arbennig iawn, sydd â sgiliau a nodweddion, i gyflawni'r dyletswyddau hynny, ond os ydych chi'n gymwys i wneud hynny, mae'r cyfleoedd yno ichi fanteisio arnynt.
Bydd angen llanw 2,300 o swyddi gwag newydd cyn 2008.
Mae mentrau newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, megis Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen, yn golygu y bydd angen llanw 2,300 o swyddi gwag newydd erbyn 2008.
Ewch i www.playlearngrowwales.gov.uk i gael gwybod am y gwahanol yrfaoedd, pa hyfforddiant sydd ar gael ac a fyddai swydd yn gweithio gyda phlant ifanc at eich dant chi.
Ar ôl ichi ymweld â'r wefan, ffoniwch Wasanaeth Gwybodaeth ynghylch Plant Sir Gaerfyrddin ar y rhif 01267 246556
i gael gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi lleol.
Mae'n bosibl y gallwn roi cymorth ichi hyfforddi i ennill y cymwysterau y bydd eu hangen arnoch i weithio mewn Meithrinfa Ddydd, Cylch Chwarae Cyn-ysgol, Clwb y Tu Allan i'r Ysgol neu i fod yn Gynorthwy-ydd Dosbarth, yn Warchodwr Plant neu'n Weithiwr Cynllun Chwarae.
Os ydych eisoes yn gweithio gyda phlant, gallwn eich cynorthwyo i hyfforddi er mwyn gwella eich sgiliau a cheisio camu ymlaen yn eich gyrfa.
Ar y cyd â Choleg Sir Gâr, mae Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin a Dechrau'n Deg
Sir Gaerfyrddin wrthi’n ariannu amrywiaeth o gyrsiau Gofal Plant NVQ Lefel 2 a 3,
gan gynnwys:
- NVQ Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
- NVQ Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
- Tystysgrif CACHE Lefel 2 mewn Addysg Gofal Plant
- Diploma CACHE Lefel 3 – Arferion Cylchoedd Chwarae Cymru
- Diploma (Cymraeg) CACHE Lefel 3 mewn Arferion Cylchoedd Chwarae Cymru
- NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(Plant a Phobl Ifanc)
|