Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
Llyfrgell Deganau English
Carmarthenshire Children's Partnership

Cysylltwch â ni:
Janine Patrick
Swyddog Datblygu Cychwyn Cadarn
Y Bartneriaeth Blant
Adeilad 2
Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB

Rhif ffôn: 01267 246559
jpatrick@sirgar.gov.uk

Downloads:
Sure Start leaflet Taflen Cychwyn Cadarn (size=600kB)
pdf Canolfannau Teulu (May 2009) (size=3Mb)

Sure Start Carmarthenshire
Sure Start Carmarthenshire
Sure Start Carmarthenshire
Sure Start Carmarthenshire
Sure Start Carmarthenshire
Sure Start Carmarthenshire



Gwasanaethau Cychwyn Cadarn yn Sir Gaerfyrddin
Sure Start in Carmarthenshire

Y Cefndir

Cyflwynwyd y rhaglen Cychwyn Cadarn yn 1999. Rhoddodd gyfle i wasanaethau ataliol y blynyddoedd cynnar i deuluoedd gael eu datblygu'n lleol ledled Sir Gaerfyrddin, er mwyn diwallu’r anghenion a glustnodwyd yn Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin.

Bwriad y gwasanaethau a ddatblygir o dan y rhaglen Cychwyn Cadarn yw cynorthwyo rhieni/gofalwyr a phlant i hyrwyddo datblygiad corfforol, deallusol, a chymdeithasol plant cyn-ysgol, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ffynnu pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol.

Yn 2003, bu i gronfa Cymorth (a roddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i bob un o'r 22 Awdurdod Lleol ar draws Cymru) integreiddio ffynonellau cyllid blaenorol Cychwyn Cadarn, Cymorth i Deuluoedd, a Gwasanaethau Ieuenctid ar ffurf agenda helaethach ar gyfer pawb dan 25 oed. Fe wnaeth hyn alluogi'r Gwasanaethau Cychwyn Cadarn i ymestyn eu cymorth i deuluoedd â phlant hyd at 10 oed o fewn agenda'r Bartneriaeth Blant.

Y Cyd-destun Lleol

Mae rhaglen Cychwyn Cadarn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys 13 o brosiectau a roddir ar waith ar y cyd gan amrywiaeth o bartneriaid o'r sectorau statudol a gwirfoddol sy'n cynnwys: Mae 3 phrif linyn i’r Rhaglen Cychwyn Cadarn yn Sir Gaerfyrddin:
  1. Cymorth Rhianta (cymorth yn y cartref)
  2. Cymorth mewn Canolfannau Teulu (cymorth mewn canolfan benodol)
  3. Cymorth i rai ag Anghenion Arbennig

1. Cymorth Rhianta

Darperir amrywiaeth o wasanaethau cymorth rhianta sy’n diwallu anghenion amrywiol rhieni/gofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin yng nghartref eu hunain.
  • Gwasanaeth Mentora (Tîm Datblygu Iechyd Cychwyn Cadarn)
  • Rheoli Ymddygiad (Tîm Datblygu Iechyd Cychwyn Cadarn)
  • Home-Start Caerfyrddin/Llanelli
  • Home – Start Dinefwr
  • Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd Cychwyn Cadarn
  • Prosiect Lleoliadau Rhiant a Baban
  • Gwasanaeth Allgymorth Cymorth i Fenywod

2. Cymorth mewn Canolfannau Teulu

Datblygwyd rhwydwaith o 12 Caonlfan Deulu ledled Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â Plant Dewi ac maent yn cynnig cyngor a chymorth mynediad agored i deuluoedd mewn amgylchedd gofalgar. Mae’r canolfannau teulu yn y lleoedd canlynol: y Tymbl, Trimsaran, De Cefncaeau, y Betws, y Garnant, Caerfyrddin (2), Llanybydder, Pencader, Sant Paul, y Morfa a Felinfoel.

Bydd pobl o ardaloedd eraill yn cael cyfle i ddefnyddio canolfan deulu deithiol sef bws deulawr sy’n ymweld â mannau penodol am gyfnod o 9 mis. I gael rhagor o wybodaeth am y bws teithiol i deuluoedd, cysylltwch â’r Tîm Teulu a Chymuned drwy ffonio 01554 745150.

Yn ogystal â hyn, mae Plant Dewi yn trefnu 9 grwp ‘teuluoedd gyda’i gilydd’ a gynhelir bob wythnos ac sy’n cynnig cymorth i deuluoedd yn eu cymuned eu hunain. Mae’r grwpiau ‘teuluoedd gyda’i gilydd’ yn cael eu cynnal yn y mannau canlynol: Brynaman, Llandybie, Cydweli, Lacharn, Saron, Seaside, llandeilo a Llanybydder. I gael rhogor o wybodaeth am grwpiau ‘teuluoedd gyda’i gilydd’, cysylltwch â Phlant Dewi drwy ffonio 01267 221551.


3. Cymorth i rai sydd ag Anghenion Arbennig

Darperir gwasanaethau i rai sydd ag anghenion arbennig, gan gynnwys darparu cymorth “Help Llaw” a gydlynir gan Gynllun Cyfeirio Sir Gaerfyrddin, a chymorth therapi iaith a lleferydd.
  • P.I.N.S (Gwasanaeth Ymyrraeth Gyn-ysgol)
  • Cynllun Atgyfeirio Anghenion Arbennig
I gael rhagor o fanylion am bob un o'r 13 o wasanaethau Cychwyn Cadarn (a restrir uchod) a ddarperir o dan y rhaglen Cychwyn Cadarn yn Sir Gaerfyrddin, cyfeiriwch at y daflen Cychwyn Cadarn y gellir ei llwytho isod. Yn yr un modd, i gael rhagor o fanylion am y 12 canolfan deulu ar draws Sir Gaerfyrddin, cyfeiriwch at bamffled Canolfannau Teulu Sir Gaerfyrddin y gellir hefyd ei lwytho isod.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Cychwyn Cadarn a ddatblygir o dan y rhaglen Cychwyn Cadarn yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â:

Janine Patrick
Swyddog Datblygu Cychwyn Cadarn
Y Bartneriaeth Blant
Adeilad 2
Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB

Rhif ffôn: 01267 246559
jpatrick@sirgar.gov.uk


Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Llyfrgell Deganau : Downloads : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfan Blant Llwynhendy : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Site Meter