| Cysylltwch â ni:
|
Lisa Grice, Children’s Partnership Officer
Tel: 01267 246555
|
|
Gweithio tuag at gael darpariaeth gofal plant ddigonol' ...
Deddf Gofal Plant 2006 sydd wrth wraidd y ddogfen "Ar Gyfer Plant y mae Gofal" sef Strategaeth Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n rhoi rôl allweddol i awdurdodau lleol o ran pennu ffurf eu marchnad gofal plant leol. Mae'n atgyfnerthu’r bartneriaeth â darparwyr yn y sector preifat, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a'r sector a gynhelir sy'n angenrheidiol i greu marchnad gofal plant gref, gynaliadwy ac amrywiol sy'n diwallu anghenion rhieni a gofalwyr.
O Ebrill 2008 ymlaen, bydd yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth gofal plant ddigonol ar gyfer rhieni a gofalwyr yn ei ardal, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol ac yn rhesymol. I baratoi ar gyfer y ddyletswydd hon, mae'n rhaid cynnal asesiad manwl o'r ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal a'r galw am y ddarpariaeth honno.
Yn Sir Gaerfyrddin, ymgynghorwyd ynghylch yr asesiad rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2008. Roedd mwy na 700 o rieni wedi cymryd rhan yn yr Asesiad. Gellir lawrlwytho copi o'r Asesiad o Ddigonolrwydd y Ddarpariaeth Gofal Plant isod.
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, Sir Gaerfyrddin (Hydref 2008) (5Mb)
Mae'r Asesiad yn cynnwys manylion ynghylch cyflenwad ô a'r galw am ofal plant yn y sir gyfan. Mynd i'r afael ag anghysonderau yn y cyflenwad gofal plant a'r galw amdano yw nod yr Asesiad. Mae’n rhaid cael rhagor o leoedd gofal plant mewn rhai rhannau o'r Sir; i gyflawni'r nod hwn bydd yn rhaid i'r broses a ddefnyddir adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol er mwyn datblygu marchnad gofal plant leol gadarn a chynaliadwy heb beri anfantais i'r rheiny sydd eisoes yn darparu gofal plant o safon.
Mae cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu gan y bartneriaeth a fydd yn darparu gwybodaeth ynghylch cynllunio a blaenoriaethu datblygiadau gofal plant a dargedir dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd yr Asesiad yn cael ei adolygu bob blwyddyn a’i ailadrodd bob tair blynedd.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Asesiad o Ddigonolrwydd y ddarpariaeth Gofal Plant yn Sir Gaerfyrddin neu’r cynllun gweithredu, cysylltwch â'r canlynol:
Lisa Grice, Swyddog y Bartneriaeth Plant drwy ffonio 01267 246555.
|