| Cysylltwch â ni:
|
The Children’s Partnership
Tel: 01267 246561
|
|
Strategaeth Chwarae i Blant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin
'Mae chwarae'n ymgorffori ymddygiad plant a ddewisir yn wirfoddol, a gyfeirir yn bersonol ac a ysgogir yn briodol. Ni pherfformir am unrhyw nod neu wobr allanol ac mae'n rhan hanfodol ac annatod o ddatblygiad iach - nid ar gyfer plant unigol yn unig, ond hefyd ar gyfer y gymdeithas y maent yn byw ynddi'.
- Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006
Pwrpas y Strategaeth
Datblygwyd y Strategaeth Chwarae i gydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin. Mae’n ceisio codi proffil chwarae a darparu llwyfan ar gyfer datblygu cyfleoedd chwarae yn y dyfodol. Bwriedir i Strategaeth Chwarae Sir Gaerfyrdin fod yn offeryn ar gyfer sicrhau bod chwarae yn cael ei gynnwys a’i ystyried yng ngwaith pob asiantaeth sy’n gweithredu yn y Sir. Bwriedir i’r Strategaeth fod yn ddogfen ymarferol sy’n cyflwyno’r egwyddorion arweiniol a’r materion sydd i dderbyn sylw yng ngwaith y dyfodol.
Gweledigaeth ar gyfer chwarae
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i chwarae a hoffai i bob plentyn a pherson ifanc fod yn iach, yn hapus a mwynhau eu hamser rhydd. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yn medru cyrchu profiadau chwarae cyffrous, ysgogol a chreadigol trwy ddarparu chwarae o ansawdd, o dan a heb oruchwyliaeth, sy’n rhoi cyfleoedd ar gyfer her.
Cysylltiadau Strategol: Agendâu Cenedlaethol a Lleol
Mae datblygiad Strategaeth Chwarae Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu agendau polisi cenedlaethol ac agendau lleol. Ar lefel genedlaethol, cynhyrchodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bolisi chwarae yn 2002 ac o ganlyniad sefydlwyd Grwp Gweithredu Chwarae i ddatblygu argymhellion pellach ar gyfeiriad chwarae. Lansiwyd ‘Chwarae yng Nghymru’ – Cynllun Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Chwefror 2006. Mae ‘Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau’ yn cyflwyno’r camau a gymerir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o dan ei saith nod craidd, ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae chwarae yn cyfrannu tuag at weithredu y saith nod craidd yma.
Nodau
Mae’r amcanion a’r argymhellion o fewn y Strategaeth Chwarae yn cael eu rhannu i chwech amcan:
Amcan 1: Annog mwy o ddarpariaeth chwarae
Amcan 2: Chwarae yn yr ysgol
Amcan 3: Chwarae yn y gymuned
Amcan 4: Gwaith chwarae fel galwedigaeth
Amcan 5: Rheoli risg a phryderon rhieni
Amcan 6: Datblygu Chwarae yn strategol ar draws Sir Gaerfyrddin
Mae Strategaeth Chwarae Sir Gaerfyrddin yn ceisio sicrhau fod chwarae plant a phobl ifanc yn fwy cydgysylltiedig trwy ddatblygu amryw o argymhellion all gael eu defnyddio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a mudiadau stadudol a gwirfoddol er mwyn gwella cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ar draws y Sir.
Wrth weithio mewn partneriaeth gyda’r mudiadau yma yn ogystal a rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc, mae’r Strategaeth yn dangos ymroddiad i sicrhau fod holl blant a phobl ifanc yn medru cyrchu ystod o brofiadau hwyl, amrywiol a cyffrous sydd yn rhydd o risg annerbyniol a sydd yn annog amrywiaeth ac annog cynhwysiant pob plentyn.
Yr Ymgynghoriad
Ymgynghorwyd yn eang ar y Strategaeth a derbyniwyd adborth oddi wrth ysgolion, lleoliadau ieuenctid, y Gwasanaeth Ieuenctid, a chynrychiolwyr plant o dan gofal, plant ag anableddau a darparwyr chwarae.
Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad o’r ymgynghoriad gyda phlant:
Adroddiad o’r ymgynghoriad gyda phlant (size=180kb)
Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad ymgynghoriad gyda phobl ifanc:
Adroddiad ymgynghoriad gyda phobl ifanc (size=40kb)
Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad ymgynghoriad gyda darparwyr chwarae
Adroddiad ymgynghoriad gyda darparwyr chwarae (size=130kb)
Cafodd y plant a’r bobl ifanc gyfle i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth. Roedd angen cynllunio logo ar gyfer y fersiwn plant a phobl ifanc o’r Strategaeth Chwarae a chreu teitl ar gyfer y ddogfen. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.
Cynllunio logo: Enillwyr y gystadleuaeth
|
|
|
1st Jade Topham,
Ysgol Gynradd Capel Iwan |
2nd Felix Buchanan,
Ysgol Gynradd Capel Iwan |
3rd Kelly Llewelyn,
Ysgol Gynradd Parc yr Hun |
Creu teitl: Enillwyr y gystadleuaeth
1st Liam Danter, Ysgol Gynradd Parc yr Hun
‘Hei! Dewch i Chwarae!
2nd Jessica Roderick, Ysgol Gynradd Parc yr Hun
‘Dewch i chwarae!’
3rd Leigh Webb, Ysgol Gynradd Parc yr Hun
‘Mae chwarae yn iach i chi ac yn hwyl’
|
| Y Lawnsiad
Lawnsiodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu Strategaeth Chwarae ar Ddydd Llun, 14eg Gorffennaf. Mynychodd plant lleol y lansiad, a chymerwyd rhan mewn gweithdai a gafodd eu cydlynnu gan Trysordy, cwmni wedi ei selio yn Nhre Ioan sydd yn ailgylchu deunydd sgrap er mwyn creu nwyddau chwarae.
Ymunodd y Commisiynydd Plant, Keith Towler, gyda’r disgyblion o Ysgol Gynradd Parc yr Hun ac Ysgol Gynradd Capel Iwan.
Hefyd, lansiwyd DVD y Strategaeth Chwarae ac mae copiau o’r DVD ar gael i’w benthyg gan y Bartneriaeth Plant. Bydd y DVD yn cael ei defnyddio fel offeryn hyrwyddiol er mwyn codi proffil pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc sydd yn byw o fewn Sir Gaerfyrddin.
Lawrlwythwch gopi o’r Strategaeth Chwarae i Blant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin (2008 – 2011)
Strategaeth Chwarae i Blant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin (2008-2011) (size=3Mb)
Os hoffech fwy o wybodaeth ynglyn a’r Strategaeth Chwarae a’r DVD cysylltwch â’r Partneriaeth Plant ar 01267 246561.
|
|