| Cysylltwch â ni:
|
Kath Adams
Adeilad 2
Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin, SA31 3HB
Ffôn: 01267 246617
|
|
Iaith a Chwarae
Rhaglenni newydd ar gyfer datblygiad iaith yn y Blynyddoedd Cynnar
Nôd cyntaf y Strategaeth yw gofalu 'nad yw'r un plentyn yn cychwyn ysgol heb baratoi ar gyfer dysgu'. Tipyn o her!
Trwy ymgynghori â'r Partneriaethau Blynyddoedd Cynnar a Cychwyn Cadarn, ymwelwyr iechyd, therapyddion iaith a llefaredd a sefydliadau grwpiau chwarae, rydym wedi datblygu rhaglen i ddangos i rieni sut i symbylu iaith a llythrennedd eu babanod a'u plantos mân.
Mae Chwarae a Iaith yn rhaglen ar gyfer rhieni sydd â phlant 0 - 3 oed. Os ydych wedi gweld yr hysbysebion Darllena gyda Fi ar y teledu byddwch yn gwybod am yr ymgyrch i helpu plant hyn gyda'u darllen. Ond yn bwysicach fyth, rydym yn gwybod bod gan fabis a phlant ifanc iawn allu anhygoel i ddysgu. Mae'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol am wneud yn siwr bod pawb yn ymwybodol o'r gwahaniaeth mae'n gallu gwneud os yw plant ifanc yn clywed llawer o ganeuon, rhigymau a storïau ac os yw'r rhieni yn gwneud amser i siarad a chwarae.
Bod yn rhiant yw swydd bwysicaf bywyd a'r un fwyaf heriol. Os ydy plant am gael dechrau da mewn bywyd yna mae'n rhaid eu cwtsio, siarad â nhw, adrodd rhigymau, rhannu stori bob dydd a chwarae gyda nhw - ac mae'r cyfan yn rhad ac am ddim!
|