Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
English
Carmarthenshire Partnership

Llwytho dogfennau i lawr
Cyrsiau Hyfforddi Cyrsiau Hyfforddi am Gaeaf/Gwanwyn 2012

Taith Gerdded Fawr 2012

pdf Canolfannau Teulu Sir Gaerfyrddin (2011) (3Mb)

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2011-14, Adroddiad Cryno

Fersiwn drafft o Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2011-14, Dogfen Grynodol, Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad

Download pdf Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2009-2012

pdf Rhaglen Hyfforddiant Sir Gâr 2010-11


Get Acrobat Reader Fe fyddwch chi angen Acrobat Reader i allu gweld y dogfennau pdf hyn.
(dolen allanol)

Cysylltwch â ni:
Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin
Ffôn: 01267 246555
e-bost gwybplant@sirgar.gov.uk




Carmarthenshire Children's Partnership logo Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin


Mae Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin yn dymuno bod plant Sir Gâr yn ddiogel, yn hapus ac yn iach; a'u bod yn tyfu ac yn datblygu yn ôl eu gallu i fod yn aelodau hyderus a gofalgar o'r gymdeithas a pharchu pob agwedd ar amrywiaeth.

Mae'r Bartneriaeth yn deall bod rhaid darparu gwasanaethau drwy'r sir gyfan er mwyn sicrhau bod anghenion iechyd, addysg a chymdeithasol plant yn cael eu diwallu, fodd bynnag bydd yn ofynnol hefyd i dargedu plant sydd â'r angen mwyaf, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd.

Mae aelodau'r Bartneriaeth yn cynrychioli'r prif asiantaethau statudol a gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau i blant y Sir. Plant rhwng 0 a 10 oed sy'n derbyn sylw'r Bartneriaeth sydd yn is-grwp y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (ac yn cydweithio'n agos â'r Bartneriaeth Pobl Ifanc sy'n ymdrin â phlant a phobl ifanc o 11 i 25 oed).

Mae'r Bartneriaeth yn fodd i asiantaethau ddod ynghyd i glustnodi a chymeradwyo materion perthnasol y gellir rhoi blaenoriaeth iddynt a deall eu cyfraniad o ran cynnig manteision i blant. Nid yw'n atal asiantaethau unigol rhag datblygu ond mae'n sicrhau bod y blaenoriaethau o ran cynlluniau cyllido'n cael eu nodi'n glir a bod cyrff yn medru cydweithio er mwyn hyrwyddo prosiectau.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2011-14
Dogfen Grynodol

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal ail Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn ddiweddar i fesur faint o alw a darpariaeth gofal plant sydd yn lleol yn unol â Deddf Gofal Plant 2006.

Rydym wedi llunio dogfen grynodol o'r Asesiad llawn sy'n amlinellu'r prif gasgliadau, y bylchau mewn gofal plant a'r argymhellion a awgrymir.

Mae'r ddogfen Grynodol yn destun YMGYNGHORI ar hyn o bryd. Gellir gweld y ddogfen hon drwy glicio ar y cyswllt.

Hoffwn glywed gennych a'ch annog i lenwi'r Ffurflen Ymateb erbyn 18ain Ebrill 2011.
Fersiwn drafft o Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2011-14, Dogfen Grynodol, Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad

Byddwn yn coladu ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r holl ymatebion wrth lunio fersiwn terfynol o'n Hasesiad.

Mae hwn yn Asesiad pwysig a bydd yn ein helpu i gynllunio datblygiad darpariaeth gofal plant yn strategol dros y tair blynedd nesaf...gwnewch yn siwr eich bod yn dweud eich dweud!

Bydd yr Asesiad terfynol a'r Cynllun Gweithredu sy'n gysylltiedig ag ef ar gael i'w gweld ar y dudalen hon o'n gwefan tua diwedd Mai 2011.


Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Downloads : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfan Blant Llwynhendy : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Valid HTML 4.01 Transitional
Site Meter