Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
Llyfrgell Deganau English
Carmarthenshire Children's Partnership

Cysylltwch â ni:
Tîm Genesis yn Sir Gaerfyrddin:
Uned 7, Parc Diwydiannol Llanelli, Heol Troserch, Llangennech, Llanelli SA14 8DZ.
Ffoniwch: 01554 744340




Genesis Carmarthenshire
Genesis in Carmarthenshire

Os nad ydych wedi gweithio ers peth amser, ac os yw eich amgylchiadau yn golygu ei bod yn anodd ichi ddychwelyd i ddysgu, hyfforddiant neu waith, efallai y bydd Genesis yn gallu eich helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae ein tîm Ymgynghorwyr Oedolion penodol yn gweithio gydag unigolion i'w helpu i baratoi at y dyfodol, ac i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i gyflawni eu hamcanion a chreu gwell dyfodol iddynt eu hunain

Gall hyn gynnwys:
  • Cymorth, cyngor ac arweiniad
  • Cyrsiau meithrin hyder a datblygiad personol
  • Cymorth i gael hyd i gyrsiau hyfforddiant addas
  • Cymorth i gael hyd i ddarparwyr gofal plant
  • Cyllid ar gyfer gofal plant*
  • Cymorth ariannol arall*
  • Cymorth i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a lleoliadau gwaith.
* lle nad oes modd cael cyllid o unrhyw ffynhonnell arall.

I gymryd rhan, mae'n rhaid i unigolion fodloni'r amodau canlynol:
  • Byw yn Sir Gaerfyrddin
  • Bod dros 16 oed
  • Bod yn ddi-waith neu'n hawlio budd-daliadau
Rhoddir blaenoriaeth i'r canlynol:
  • Menywod
  • Unig rieni
  • Unigolion sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith oherwydd problemau iechyd
  • Pobl rhwng 16 a 18 oed nad ydynt yn astudio, yn cael hyfforddiant nac yn gweithio
  • Unigolion dros 50 oed
  • Pobl Dduon a Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch Thim Genesis yn Sir Gaerfyrddin:
Uned 7, Parc Diwydiannol Llanelli, Heol Troserch, Llangennech, Llanelli SA14 8DZ.
Ffoniwch: 01554 744340

Mae Genesis Cymru 2 yn brosiect Cymru gyfan a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin


Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Llyfrgell Deganau : Downloads : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfan Blant Llwynhendy : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Site Meter